2013 Rhif (Cy. )

aMAETHYDDIAETH

Rheoliadau’r Trefniant Cyffredin Sengl ar gyfer Marchnadoedd (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio nifer o Reoliadau o ganlyniad i Reoliad (EU) 2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013, sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007 (“Rheoliad (EU) 2013”). Mae Rheoliad (EU) 2013 yn diddymu (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol a therfynol a bennir yn Erthygl 230) y Trefniant Cyffredin Sengl blaenorol ar gyfer marchnadoedd – Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007 ar 22 Hydref 2007 (“Rheoliad y Cyngor 2007”) a oedd yn sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer marchnadoedd amaethyddol ac yn ymdrin â darpariaethau penodol ar gyfer cynhyrchion amaethyddol penodedig. Mae’r darpariaethau trosiannol a bennir yn Erthygl 230 yn darparu y bydd Erthyglau penodol o Reoliad y Cyngor 2007 yn parhau’n gymwys hyd nes daw rheolau marchnata cyfatebol a wneir o dan Reoliad (EU) 2013 (“rheolau marchnata cyfatebol”) i rym.

Diwygir y Rheoliadau canlynol—

(a)     Diwygir Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 2011 i ddisodli cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor 2007 gan gyfeiriadau at Reoliad (EU) 2013 (rheoliad 2).

(b)     Diwygir Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011 i ddisodli cyfeiriadau at  Reoliad y Cyngor 2007 gan gyfeiriadau at Reoliad (EU) 2013 (rheoliad 3).

(c)     Mae Rheoliadau Llaeth Yfed (Cymru) 2010 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi  Erthygl 114(2) o Reoliad y Cyngor 2007 (safonau marchnata ar gyfer llaeth a chynhyrchion llaeth). Mae Erthygl 230(1)(c) yn darparu y bydd Erthygl 114 yn parhau’n gymwys hyd nes daw’r rheolau marchnata cyfatebol i rym. Diwygir Rheoliadau 2010 i ddisodli’r cyfeiriad yn rheoliad 3 (gwerthu neu ddanfon llaeth a defnyddio disgrifiad gwerthu) at Atodiad XIII i Reoliad y Cyngor 2007, gan gyfeiriad at Ran IV o Atodiad VII (llaeth ar gyfer ei yfed gan bobl) i Reoliad (EU) 2013 (rheoliad 4).

(d)     Mae Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru)  2010 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi safonau marchnata UE mewn perthynas â wyau deor, cywion dofednod ac wyau yn eu  plisgyn ar gyfer eu bwyta. Mae Erthygl 230(1)(c) yn darparu y bydd Erthygl 116 o Reoliad y Cyngor 2007 a rhannau penodol o Atodiad XIV i’r Rheoliad hwnnw yn parhau’n gymwys hyd nes daw’r rheolau marchnata cyfatebol i rym. Ac eithrio i’r graddau y mae Rheoliad y Cyngor 2007 yn gymwys, mae Rheoliad  (EU) 2013 yn gymwys, a diwygir Rheoliadau 2010 i gyfeirio at y darpariaethau perthnasol yn Rheoliad (EU) 2013 (rheoliad 5).

(e)     Diwygir Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009 i ddisodli cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor 2007 gan gyfeiriadau at Reoliad (EU) 2013 (rheoliad 6).

(f)      Diwygir Rheoliadau Llaeth Yfed (Cymru) 2008 i ddisodli cyfeiriadau at Reoliad y Cyngor 2007 gan gyfeiriadau at Reoliad (EU) 2013 (rheoliad 7).

(g)     Mae Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi safonau marchnata mewn perthynas â chig dofednod. Bydd Erthygl 116 o Reoliad y Cyngor 2007 a rhannau penodol o Atodiad XIV i’r Rheoliad hwnnw’n parhau’n gymwys hyd nes daw’r rheolau marchnata cyfatebol i rym. Ac eithrio i’r graddau y mae Rheoliad y Cyngor 2007 yn gymwys, mae Rheoliad  (EU) 2013 yn gymwys, a diwygir Rheoliadau 2011 i gyfeirio at y darpariaethau perthnasol yn Rheoliad (EU) 2013 (rheoliad 8).

(h)     Mae Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008 yn creu’r troseddau o fethu â chydymffurfio â darpariaethau yn Rheoliad y Cyngor 2007 mewn perthynas â safonau marchnata ar gyfer brasterau a disgrifiadau o laeth a chynhyrchion llaeth (Erthyglau 115 ac 114 yn eu trefn). Mae Erthygl 230(1)(c) o Reoliad (EU) 2013 yn darparu y bydd Erthyglau 114 a 115 o Reoliad y Cyngor 2007 a rhannau penodol o Atodiad XIV i’r Rheoliad hwnnw’n parhau’n gymwys hyd nes daw’r rheolau marchnata cyfatebol i rym. Ac eithrio i’r graddau y mae Rheoliad y Cyngor 2007 yn gymwys, mae Rheoliad  (EU) 2013 yn gymwys, a diwygir Rheoliadau 2008 i gyfeirio at y darpariaethau perthnasol yn Rheoliad (EU) 2013 (rheoliad 9).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, nid ystyriwyd bod angen gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.


2013 Rhif (Cy. )

aMAETHYDDIAETH

Rheoliadau’r Trefniant Cyffredin Sengl ar gyfer Marchnadoedd (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013

Gwnaed                               27 Rhagfyr 2013

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru                                     31 Rhagfyr 2013

Yn dod i rym                           1 Ionawr 2014

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion gwneud rheoliadau o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972([1]) (“Deddf 1972”) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin yr Undeb Ewropeaidd([2]), ac y maent yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan yr adran honno.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diben a grybwyllir yn adran 2(2) o Ddeddf 1972 ac mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei bod yn hwylus dehongli cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at Reoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel cyfeiriadau at y Rheoliad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd([3]).

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.Mae’r Rheoliadau hyn—

(a)     yn dwyn yr enw Rheoliadau’r Trefniant Cyffredin Sengl ar gyfer Marchnadoedd (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013;

(b)     yn gymwys o ran Cymru; ac

(c)     yn dod i rym ar 1 Ionawr 2014.

Diwygio Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 2011

2.(1)(1) Diwygir Rheoliadau Dosbarthu Carcasau Eidion a Moch (Cymru) 2011([4]) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli) hepgorer y diffiniad o  “Rheoliad y Cyngor” (“Council Regulation”) ac ar ôl y diffiniad o “mochyn glân” mewnosoder y diffiniad canlynol—

ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013, sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;

(3) Yn rheoliad 2(3) (dehongli) hepgorer is-baragraff (b).

(4) Yn Rhan 1 o Atodlen 1 (darpariaethau Ewropeaidd: carcasau buchol)—

(a)     yng ngholofn (1) o’r tabl, yn lle “Rheoliad y Cyngor”, rhodder “Rheoliad (EU) 2013”;

(b)     yng ngholofn 2 o’r tabl, yn lle “Atodiad V”, ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “Atodiad IV”.

(5) Yn y tabl yn Atodlen 2 (darpariaethau Ewropeaidd: carcasau moch)—

(a)     yng ngholofn (1), yn lle “Rheoliad y Cyngor”, rhodder “Rheoliad (EU) 2013”;

(b)     yng ngholofn (2), yn lle “Atodiad V”, ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “Atodiad IV”.

 

Diwygio Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011

3.(1)(1) Diwygir Rheoliadau Labelu Cig Eidion a Chig Llo (Cymru) 2011([5]) fel a ganlyn.

(2) Yn lle rheoliad 2(1)(c) (yr awdurdod cymwys) rhodder—

(c) Erthygl 78 o Reoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a Rhan I o Atodiad VII iddo, a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013, sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;.

(3) Yn lle rheoliad 4(1)(c) (tramgwyddau o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd) rhodder—

(c) Y darpariaethau canlynol o Reoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd—

                       (i)  Erthygl 78 a pharagraff II o Ran I o Atodiad VII (dosbarthu yn y lladd-dy);

                      (ii)  Erthygl 78 a pharagraff III o Ran I o Atodiad VII (disgrifiadau gwerthu);

                     (iii)  Erthygl 78 a pharagraff IV o Ran I o Atodiad VII (gwybodaeth orfodol ar y label);

                     (iv)  Erthygl 78 a pharagraff V o Ran I o Atodiad VII (cofnodi)..

(4) Yn rheoliad 4(2) (gwybodaeth sy’n ofynnol mewn perthynas â chig heb ei ragbecynnu) yn lle “paragraff IV(2) o Atodiad X1a i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1234/2007” rhodder “pwynt IV(2) o Ran I o Atodiad VII i Reoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.

Diwygio Rheoliadau Llaeth Yfed (Cymru) 2010

4.(1)(1) Diwygir Rheoliadau Llaeth Yfed (Cymru) 2010([6]) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—

(a)     hepgorer y diffiniad o “yr Atodiad” (“the Annex”);

(b)     yn y diffiniadau o “llaeth (“milk”) a “llaeth yfed” (“drinking milk”), yn lle “o’r Atodiad” rhodder “o Ran IV”.

(c)     ar ôl y diffiniad o “llaeth yfed” mewnosoder—

“ystyr Rhan IV” (“Part IV”) yw Rhan IV o Atodiad VII i Reoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.”.

(3) Yn rheoliad 2(2) (dehongli), ar ôl “Rheoliad y Cyngor”, ym mhob man lle mae’n digwydd, mewnosoder “neu Ran IV”.

(4) Hepgorer rheoliad 2(3) (dehongli).

(5) Yn rheoliad 3 (gwerthu neu ddanfon llaeth a defnyddio disgrifiad gwerthu) yn lle “o'r Atodiad fel y'u darllenir ynghyd â phwynt III o'r Atodiad” rhodder “o Ran IV fel y’u darllenir ynghyd â phwynt III o Ran IV”.

(6) Hepgorer rheoliad 4 (mewnforio cynhyrchion o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd i’w gwerthu fel llaeth yfed).

(7) Yn rheoliad 5(3) (gorfodi), yn lle  “neu’r Atodiad” rhodder “neu Ran IV”.

(8) Yn rheoliad 6 (tramgwyddau a chosbau), hepgorer “neu 4”.

Diwygio Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru)  2010

5.(1)(1) Diwygir Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru)  2010([7]) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 3(1) (dehongli), ar ôl y diffiniad o “Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003” mewnosoder—

ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;.

(3) Yn rheoliad 3(3) (dehongli) yn lle “Rhan A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO” rhodder “Rhan VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”.

(4) Yn rheoliad 3(5)(a) a (6)(a) (dehongli), ar ôl “Rheoliad Sengl CMO” mewn osoder “neu Reoliad (EU) 2013”.

(5) Yn rheoliad 8 (cymhwyso Rhan 3)—

(a)     ym mharagraffau (1) a (2)(a), yn lle “o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO”, ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”; a

(b)     ym mharagraff (2)(b), yn lle “o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO, i werthu wyau y mae pwynt I(1) o Ran A o Atodiad XIV”  rhodder “o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013, i werthu wyau y mae pwynt I(1) o Ran VI o Atodiad VII”.

(6) Yn rheoliad 11(1) a (2) (rhanddirymiadau sy’n ymwneud â marcio wyau), yn lle “o Ran A o Atodiad XIV i'r Rheoliad Sengl CMO”, ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”.

(7) Yn Rhan 1 o Atodlen 1 (darpariaethau UE ynglŷn ag wyau deor a chywion y mae methu â chydymffurfio â hwy yn dramgwydd)—

(a)     yn y pennawd o dan “Rhan 1”, mewnosoder ar y diwedd “neu’r Rheoliad (EU) 2013”;

(b)     yn mhenawdau colofnau 1 a 2, ar ôl “CMO” rhodder “neu’r Rheoliad (EU) 2013”;

(c)     yng ngholofn 1, yn lle “Erthygl 113(3), yr is-baragraff cyntaf” rhodder “Erthygl 74 o Reoliad (EU) 2013”;

(d)     yng ngholofn 1 ar ôl “Atodiad XIV”, ym mhob man lle mae’n digwydd, mewnosoder “i’r Rheoliad Sengl CMO”.

(8) Yn Atodlen 2 (darpariaethau UE cyffredinol ynglŷn ag wyau yn eu plisgyn ar gyfer eu bwyta, y mae methu â chydymffurfio â hwy yn dramgwydd)–—

(a)     yn lle Rhan 1 (darpariaethau’r Rheoliad Sengl CMO) rhodder—

PART 1

DARPARIAETHAU RHEOLIAD (EU) 2013

 

Colofn 1

Colofn 2

Colofn 3

Y ddarpariaeth berthnasol o Reoliad (EU) 2013

Darpariaethau i'w darllen gyda darpariaethau Rheoliad (EU) 2013 a grybwyllir yng ngholofn 1

Y pwnc

Erthygl 74 i’r graddau y mae’n ymwneud â marchnata wyau

Rhan VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008

Gwaharddiad ar farchnata wyau ac eithrio yn unol â'r safonau marchnata a osodir yn Rhan  VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008.

Pwynt II(1) o Ran VI o Atodiad VII

Erthygl 2(1) a (4) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008

Graddio ansawdd wyau dosbarth A (neu ffres) neu wyau dosbarth B.

Pwynt II(2) o Ran VI o Atodiad VII

Erthygl 4(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008

Graddio pwysau wyau dosbarth A.

Pwynt II(3) o Ran VI o Atodiad VII

 

Gwaharddiad ar gyflenwi wyau dosbarth B ac eithrio i'r diwydiant bwyd a diwydiant nad yw'n ddiwydiant bwyd.

Pwynt III(1) o Ran VI o Atodiad VII, yr is-baragraff cyntaf

Erthyglau 9(1) ac 11 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008

Marcio wyau dosbarth A.

Pwynt III(1) o Ran VI o Atodiad VII, yr ail is-baragraff

Erthyglau 9, 10 ac 11 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008, paragraffau (a) a (b) o’r ail is-baragraff o bwynt 2 o Ran D o Atodiad II i Reoliad (EC) Rhif 2160/2003 a rheoliad 11(1)

Marcio wyau dosbarth B.

Pwynt III(2) o Ran VI o Atodiad VII

Pwynt III(1) o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013

Y man lle caiff wyau eu marcio.

Pwynt III(3) o Ran VI o Atodiad VII, yr is-baragraff cyntaf

Pwynt III(1) o Ran VI o Atodiad VII a’r ail is-baragraff o bwynt III(3) o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013 a rheoliad 11(2)

Marcio wyau a werthir gan gynhyrchydd i'r cwsmer terfynol mewn marchnad gyhoeddus leol.

Erthyglau 75(2) a (3) o Reoliad (EU) 2013

Erthygl 30(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008

Marcio wyau a fewnforir o drydedd wlad pan fo gwarantau digonol fod y rheolau a gymhwysir mewn perthynas â'r wyau hynny yn y drydedd wlad sydd dan sylw yn gyfwerth â deddfwriaeth UE.

Erthyglau 75(2) a (3) o Reoliad (EU) 2013

Erthyglau 11, 30(2) a (3) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008

Marcio wyau a fewnforir o drydedd wlad pan nad oes gwarantau digonol fod y rheolau a gymhwysir mewn perthynas â'r wyau hynny yn y drydedd wlad sydd dan sylw yn gyfwerth â deddfwriaeth UE.

 

(b)     yn y tabl yn Rhan 2 (darpariaethau Rheoliad y Comisiwn (EC) 589/2008)—

                           (i)    yng ngholofn 2, yn lle “Pwynt II(1) o Ran A o Atodiad XIV, y mewnoliad cyntaf, i’r Rheoliad Sengl CMO”, rhodder “Pwynt II(1) o Ran VI o Atodiad VII, y mewnoliad cyntaf, i Reoliad (EU) 2013”, ac yn lle “Pwynt II(1) o Ran A of Atodiad XIV, yr ail fewnoliad, i’r Rheoliad Sengl CMO”, rhodder “Pwynt II(1) o Ran VI o Atodiad VII, yr ail fewnoliad, i Reoliad (EU) 2013” ;

                         (ii)    yng ngholofn 2, yn lle “Pwynt II(2) o Ran A o Atodiad XIV i’r Rheoliad Sengl CMO” rhodder “Pwynt II(2) o Ran VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”;

                       (iii)    yng ngholofn 2, yn lle “Pwynt III(1) o Ran A o Atodiad XIV, yr ail is-baragraff, i'r Rheoliad Sengl CMO”, ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “Pwynt III(2) o Ran VI o Atodiad VII, yr ail is-baragraff, i  Reoliad (EU) 2013”;

                        (iv)    mewn perthynas â’r cofnod ar gyfer Erthygl 30(3) yng ngholofn 2 hepgorer “pwynt IV(3) o Ran A o Atodiad XIV”;

(9) Yng ngholofn 2 o’r tabl yn Atodlen 3 (rheolaethau cymunedol ynglŷn ag wyau yn eu plisgyn ar gyfer eu bwyta, mewn perthynas â Salmonella, y mae methu â chydymffurfio â hwy yn dramgwydd), yn lle “Erthyglau 113(3) a 116 o'r Rheoliad Sengl CMO a Rhan A o Atodiad XIV i'r Rheoliad hwnnw” rhodder “Erthygl 74 a Rhan VI o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”.

 

Diwygio Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009

6.(1)(1) Diwygir Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009([8]) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(2) (dehongli)—

(a)     yn y diffiniad o “rheolau marchnata’r UE” (“EU marketing rules”), yn lle “i Reoliad y Cyngor 1234/2007, ac sy'n cynnwys y rheolau sy'n ymwneud â'r safonau hynny a geir yn Erthyglau 113 ac 113a o Reoliad y Cyngor 1234/2007” rhodder “i Reoliad (EU) 2013, ac sy'n cynnwys y rheolau sy'n ymwneud â'r safonau hynny a geir yn Erthyglau 74, 75 a 76 o Reoliad (EU) 2013”;

(b)     hepgorer y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor 1234/2007” (“Council Regulation 1234/2007”);

(c)     yn y diffiniad o “safon farchnata gyffredinol” (“general marketing standard”) yn lle “Erthygl 113a(1) o Reoliad 1234/2007” rhodder “Erthygl 76(1) o Reoliad (EU) 2013”;

(d)     yn y diffiniad o “cynnyrch garddwriaethol” (“horticultural produce”), yn lle “Reoliad y Cyngor 1234/2007” rhodder “Reoliad (EU) 2013”;

(e)     ar ôl y diffiniad o “rheolau marchnata’r UE” (“EU marketing rules”) mewnosoder y diffiniad canlynol—

ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;”;

(f)      yn y diffiniad o “safonau marchnata penodol” (“specific marketing standards”) yn lle “Erthygl 113(1)(b) o Reoliad y Cyngor 1234/2007” rhodder “Erthygl 75(1)(b) o Reoliad (EU) 2013”.

(3) Yn rheoliad 2(3) (dehongli), yn lle “Rheoliad y Cyngor 1234/2007” rhodder “Rheoliad (EU) 2013”.

Diwygio Rheoliadau  Llaeth Ysgol (Cymru) 2008

7.(1)(1) Diwygir Rheoliadau  Llaeth Ysgol (Cymru) 2008([9]) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)     yn y diffiniad o “cymorth Cymunedol” (“Community aid”) yn lle “Erthygl 102(1) o Reoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 26(1) o Reoliad (EU) 2013”;

(b)     yn y diffiniad o “cymorth gwladol” (“national aid”) yn lle “Erthygl 102(2) o Reoliad y Cyngor” rhodder “Erthygl 217 o Reoliad (EU) 2013”;

(c)     hepgorer y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”);

(d)     ar ôl y diffiniad o “y rheolau Cymunedol” (“the Community rules”) mewnosoder y diffiniad canlynol—

ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;”.

Diwygio Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011

8.(1)(1) Diwygir Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011([10]) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 1(3) (cymhwyso’r Rheoliadau i gig dofednod)—

(a)     yn lle “ym mhwynt I(1) o Ran B o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl” rhodder “ym mhwynt I o Ran V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”; a

(b)     yn lle “o'r Rhan honno o'r Atodiad hwnnw i'r Rheoliad hwnnw” rhodder “o Ran B o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl”.

(3) Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)     ym mharagraff (1)—

                           (i)    yn y diffiniad o “darpariaeth cig dofednod Ewropeaidd” (“European poultrymeat provision”), ar ôl “Rheoliad CMO Sengl” mewnosoder “neu Reoliad (EU) 2013”;

                         (ii)    yn lle’r diffiniad o “cig dofednod” (“poultrymeat”) rhodder—

 mae i “cig dofednod” (“poultrymeat”) yr ystyr a roddir i “poultrymeat” gan bwynt II(1) o Ran V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013;; a

                       (iii)    ar ôl y diffiniad o “y Rheoliad CMO Sengl” (“Single CMO Regulation”) mewnosoder y diffiniad canlynol—

ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;”; a

(b)     ym mharagraff (3), ar ôl “Rheoliad CMO Sengl” mewnosoder “neu Reoliad (EU) 2013”.

(4) Yn rheoliad 12 (pwerau swyddog awdurdodedig), yn lle “i’r Rheoliad CMO Sengl” rhodder “i Reoliad (EU) 2013”.

(5) Yn Rhan 1 o Atodlen 1 (darpariaethau cig dofednod Ewropeaidd – hysbysiadau cydymffurfio)—

(a)     yn y pennawd o dan “Rhan 1”, ar ôl “CMO Sengl” mewnosoder “neu Reoliad (EU) 2013”;

(b)     yn lle pennawd colofn 1, rhodder “Darpariaeth berthnasol o’r Rheoliad CMO Sengl neu Reoliad (EU) 2013”;

(c)     ym mhennawd colofn 2, ar ôl “Rheoliad CMO Sengl” mewnosoder “neu Reoliad (EU) 2013”;

(d)     yng ngholofn 1 o’r tabl, yn lle “Erthygl 113(3), yr is-baragraff cyntaf” rhodder “Erthygl 74 o Reoliad (EU) 2013”;

(e)     yng ngholofn 2 o’r tabl, yn lle “Erthygl 116 o'r Rheoliad CMO Sengl a Rhan B o Atodiad XIV i'r Rheoliad hwnnw” rhodder “Erthygl 116 a Rhan B(I)(2) a (3) a (III)(1) o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl a Rhan V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”;

(f)      yng ngholofn 3 o’r tabl, yn lle “Rhan B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO Sengl” rhodder “Rhan B(I)(2) a (3) a (III)(1) o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl a Rhan V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”;

(g)     yng ngholofn 1 o’r tabl, ar ôl “Pwynt III(1) o Ran B o Atodiad XIV” mewnosoder “i’r Rheoliad CMO Sengl”;

(h)     yng ngholofn 1 o’r tabl, yn lle “Pwynt III(2) o Ran B o Atodiad XIV” rhodder “Pwynt III o Ran V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”; ac

(i)      yng ngholofn 2 o’r tabl yn lle “o Ran B o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl” ym mhob man lle mae’n digwydd, rhodder “o Ran V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”.

(6) Yn Rhan 2 o Atodlen 1 (darpariaethau Rheoliad y Comisiwn)—

(a)     yng ngholofn 2 yn lle “Pwyntiau III(1) a (2) o Ran B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO Sengl” rhodder “Pwynt III(1) o Ran B o Atodiad XIV i’r Rheoliad CMO Sengl a phwynt III o Ran V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”; a

(b)     yn lle “Pwynt II(3) o Ran B o Atodiad XIV i'r Rheoliad CMO Sengl” rhodder “Pwynt II(3) o Ran V o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”.

Diwygio Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008

9.(1) Diwygir Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008([11]) fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)     Ym mharagraff (1), ar ôl y diffiniad o “manwerthu” (“sell by retail”), mewnosoder—

ystyr “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yw Rheoliad Senedd Ewrop a’r Cyngor a fabwysiadwyd ar 16 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu trefniant cyffredin ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol ac yn diddymu Rheoliadau’r Cyngor (EEC) Rhif 922/72, (EEC) Rhif 234/79, (EC) Rhif 1037/2001 ac (EC) Rhif 1234/2007, fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;”

(b)     ym mharagraff (2) ar ôl  “Rheoliad y Cyngor”, ym mhob man lle mae’n digwydd, mewnosoder “neu Reoliad (EU) 2013”.

(3) Yn rheoliad 6(2) (tramgwyddau a chosb am dorri unrhyw ddarpariaeth UE)—

(a)     yn is-baragraff (a), yn lle “gydag Atodiad XII i'r Rheoliad hwnnw” rhodder “gyda Rhan III o Atodiad VII i Reoliad (EU) 2013”;

(b)     yn lle is-baragraff (b)(i) rhodder “(i) pwyntiau 1, 3, 5 a 6 o Ran II a phwynt 2 o Ran IV o Atodiad XV i Reoliad y Cyngor”;

(c)     ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder “(ba) Erthyglau 75(1)(h) a 78(1) a (2) o Reoliad (EU) 2013 (diffiniadau, dynodiadau a disgrifiadau gwerthu sy’n gymwys i frasterau taenadwy) fel y’u darllenir gyda Rhan VII o Atodiad VII i’r Rheoliad hwnnw”.

 

 

 

Alun Davies

 

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru

 

27 Rhagfyr 2013

 



([1])           1972 p. 68. Diwygiwyd adran 2(2) gan adran 27(1)(a) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr  Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7) a Rhan 1 o’r Atodlen i’r Ddeddf honno. Mewnosodwyd paragraff 1A o Atodlen 2 gan adran 28 o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006. 

([2])           O.S.2010/2690

([3])           O.J. L 347, 20.12.2013. t.1.

([4])           O.S. 2011/1826 (Cy. 198) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2012/948 (Cy.125).

([5])           O.S. 2011/991 (Cy.145)

([6])           O.S. 2010/1492 (Cy.135)

([7])           O.S. 2010/1671 (Cy. 158).

([8])           O.S. 2009/1551 (Cy. 151), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2011/2486 (Cy.270)

 

([9])           O.S. 2008/2141 (Cy.190), fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2009/108 (Cy. 21)

([10])         O.S. 2011/1719 (Cy. 195)

([11])         O.S. 2008/1341 (Cy. 141).